Yn Syth o’r Gât i’r Plât

Ein Fferm Ni

Busnes teuluol yw “Bedw from the farmgate” fesil fferm a siop. Rydym yn cynhyrchu cig, wyau, llysiau, ffrwythau, mệl, cyffeithau, crwyn defaid, blancedi ayb o’n ddiadell a buched pedigri, ein caeau, gardd a berllan yn Brongest a Llangrannog yn Ceredigion.

Mae’r fferm wedi bod yn rin teulu ni am can mlynedd a mwy. Rydym yn ymgyrchu i ffermio mewn ddull traddodiadol, cyneladwy ag o safon uchel o lles anifeiliaid er mwyn sicrhau bwyd a cynnyrch o’r ansawdd gorau.

Rydym yn falch iawn o’n ffordd traddodiadol a moesegol o ffermio ag hefyd ein bod yn mredru cyd weithio gyda nifer o fusnesasu a creffwyr lleol.

Bedw Welsh Black Cow

Anifeiliaid

 Gwartheg

Mae’r gwartheg duon brodorol yn ffynu ar ein fferm ni, sydd yn aml yn wlyb a gwyntog. Maen’t yn fach ei maint, yn dawel eu natur ac yn aeddfedu ar borfa dros 30 mis ag o herwydd yn dablugu blas dwys a moethus.  Mae’r amgylchedd hefyd yn dylanwadu ar y croen trwchys y gwartheg, rydym wedi troei’r croen i fewn i clystogau a rygiau gwalltog.

Y Defaid

Mae’r defaid Hampshire Down hefyd yn ffynnu ar ein porfa iseldir ag yn cynhyrchu cig oen blasus a moethus.  Mae’r defaid pur yn wuna yn mis Rhagfyr, fel sydd yn ddulys i’r brîd. Mae’r defaidcroes yn wyna yn hwyrach yn mis Mawrth, pan fydd y tywydd wedi gwella ychydig. Mae hyn yn sicrhau bod yna cig oen, hogget neu mutton ar gael yn y siop drwy’r flwyddyn.  Mae gwlan y defaid yn feddal ag o liw hufen gyda ambell brych tywyll. Mae’r gwlan yn perfaith i wneud blancedi, clystogau a croed dafad moethus.

Y Moch

Rydym yn cadw moch pur Berkshire. Maent yn foch traddodiadol cu, bach mewn maint a tyner sydd yn brîd prin erbyn hyn. Mae’r cig yn flasus ac yn creu porc, bacwn, selsig, ffagot a ham arbennig. Rydym fel fferm yn rhan o rhaglen cadwraeth ar gyfer y brîd ac yn cadw sawl llinell gwahanol er mwyn ymdrechu i sicrhau dyfodol y Berkshire’s.  Mae’r hychod yn cynhyrchu dwy dorraid o tua 8-10 o foch bach y flwyddyn.

Ffowls

Rydym yn cadw geir a hwyaid i ddodwy wyau ag ar gyfer y bwrdd. Maent yn rhedeg yn rhydd yn ein  caeau a berllan. Mae’r cig ag wyau ar gael trwyr siop. Rydym hefyd yn magu hwyaid a twrci’s ar gyfer y ford. Maent ar gael trwy’r siop a ffyddant ar werth ar y we cyn bo hir.

Hampshires

Ein Siop Ni

Ynghyd a cynnyrch ein fferm sef, wyau, cig,

ffrwythau, llysiau, mêl, blancedi, coed tân ayb, mae bara organig lleol, cacennau, menyn, llaeth, caws, iogwrt. Hefyd mae yna rhai nwyddau elfenol ag anrhegion ar gael.

Mae ein siop wedi ewi lleoli mewn hen ysgubor yn yml ein iet fferm. Rydym ar gyrion Llangrannog ty ag at Pontgarreg. Fe’ch feindiwch ni yn Farmgate, LLangrannog SA446AH.

 

Rydym yn hyderus ein bod yn cynnig ffordd arall o siopa ac yn gobeithio eich bod yn mwynhau ein cynnyrch a’r profiad. Trwy siopa gyda ny rydych yn cefnogi dros 50 o busnesau bach lleol. Rydym yn gwrthfawrogi eich cefnogaeth.

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu ag ehangu ein amrywiaeth o gynnyrch.Mae yna eitemau tebyg i peis porc, cigoedd wed’u halltu, prydiau parod a cigoedd wedi’u coginio ar y ffordd, gyda’n cynnyrch ni trwyddu draw.

Mae rhaid rhoi diolch i @busnescymru, @cywain, @canolfanbwydcymru am ei cefnogaeth mewn datblygu ein busnes.

welcome to the farm shop
sheep
Farmgate runner ducks
sleeping pigs